Rhif y ddeiseb: P-06-1249

Teitl y ddeiseb: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â syndrom tourette yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb: Mae syndrom tourette yn effeithio ar 1 o bob 100 o blant. Nid yw'n gyflwr prin. Yng Nghymru mae 1 arbenigwr nad yw'n gweld plant.
Mae syndrom tourette yn anhwylder niwrolegol sy'n effeithio ar y system nerfol ac yn achosi ticiau. Mae ticiau yn symudiadau a synau anwirfoddol, sydyn ac ailadroddus. Gall syndrom tourette fod yn boenus ac yn wanychol.
Nid yw llawer o bobl yn gallu cael diagnosis oherwydd diffyg llwybr clinigol neu maent yn cael eu rhyddhau ar yr un diwrnod heb unrhyw ofal na chymorth meddygol parhaus.  Nid rhegi yn unig yw syndrom tourette.

Gall peidio â chael gofal a chymorth meddygol arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor. Gall pobl â syndrom tourette gael anawsterau gyda gorbryder, cwsg, dicter ac ynysu cymdeithasol.

Mae ANGEN i ni gael llwybr priodol, clir a chlinigol, a mynediad at ddarpariaeth arbenigol a gofal meddygol i bobl â syndrom tourette yng Nghymru.

 

 


1.        Cefndir

Mae syndrom Tourette yn gyflwr sy'n achosi person i wneud synau a symudiadau anwirfoddol a elwir yn diciau. Yn ôl Tourette’s Action, amcangyfrifir bod mwy na 300,000 o blant ac oedolion yn y DU yn byw gyda’r cyflwr hwn.

Ticiau yw prif symptom syndrom Tourette. Mae’r ticiau hyn fel arfer yn ymddangos yn ystod plentyndod, pan fydd y plentyn rhwng 2 a 14 oed (6 yw’r oedran cyfartalog). Gall y ticiau hyn fod yn gyfuniad o diciau corfforol a thiciau lleisiol.

Gall pobl sydd â syndrom Tourette hefyd fod yn byw ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD)anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), neu anawsterau dysgu.

Mae GIG Cymru yn nodi nad yw ticiau fel arfer yn niweidiol i iechyd cyffredinol person, ond gall ticiau corfforol, fel symudiadau sydyn o’r pen, fod yn boenus. Gall y ticiau a’r symptomau eraill wella ar ôl sawl blwyddyn, ac weithiau maent yn diflannu'n llwyr.

Nid oes un prawf pendant ar gyfer syndrom Tourette. Gellir diystyru cyflyrau eraill drwy ddefnyddio profion a sganiau, fel sgan MRI. Gall person gael diagnosis o syndrom Tourette os yw wedi bod yn byw â nifer o diciau am o leiaf blwyddyn.

Nid oes iachâd ar gyfer syndrom Tourette, ond gall triniaeth helpu person i reoli ei symptomau. Mae triniaeth fel arfer ar gael gan y GIG, a gall gynnwys therapi ymddygiadol a/neu feddyginiaeth.

Gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru

Cafodd ffrwd waith gwasanaeth niwroddatblygiadol Cymru gyfan ei lansio yn 2015/16, a hynny o dan y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (T4CYP).

Datblygwyd timau niwroddatblygiadol amlddisgyblaethol yng Nghymru, a chyhoeddwyd Llwybr Asesu Diagnostig Niwroddatblygiad, sy'n cynnwys chwe safon. Cafodd dogfen ganllaw ynghylch darparu gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru ei chyhoeddi hefyd.

Ym mis Tachwedd 2019, cafodd y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc ei hymestyn tan 2022. Yn ogystal, cafodd cylch gwaith y rhaglen ei ailffocysu er mwyn canolbwyntio ar dri maes allweddol, gan gynnwys gwasanaethau niwroddatblygiadol. Disgrifir yr amcan ar gyfer y ffrwd waith hon fel a ganlyn: ‘Our objective for the ND area of work is to further support health boards to implement the Pathway and Standards, and to support the development of a whole system response for children and young people with ND conditions, providing an early offer for children and young people and their families, who otherwise would be referred to the ND team'. Cafodd y ddogfen dan sylw, sef, A Vision for Neurodevelopmental Support & Services in Wales, ei chyhoeddi o dan y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mewn llythyr at y Pwyllgor Deisebau, nododd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru ‘yn gweithio i wella gwasanaethau asesu a chefnogi ar gyfer pob cyflwr niwroddatblygiadol, gan gynnwys syndrom Tourette, gyda’r nod o adeiladu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol ledled Cymru.’

Bydd dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael ei lywio gan ganlyniadau adolygiad a gynhaliwyd ynghylch galw a chapasiti mewn perthynas â gwasanaethau niwroddatblygiadol ar gyfer bob oed. Y bwriad oedd cyflwyno adroddiad ar yr adolygiad ddiwedd fis Mawrth 2022. Bydd canlyniadau’r adolygiad hwn yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i drefnu gwelliannau hirdymor i wasanaethau yn y dyfodol.

Nododd y Dirprwy Weinidog fod gwaith eisoes wedi’i wneud i gefnogi’r nod hwn, gan gynnwys cyhoeddi’r Cod Ymarfer Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, a ddaeth i rym ym mis Medi 2021. Mae gan y cod adran benodedig ar ddarpariaeth gwasanaethau asesu. Mae hyn yn cael ei ehangu i gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol eraill megis ADHD a syndrom Tourette.

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cwrdd yn ddiweddar â’r deisebydd ac aelodau o grŵp cymorth i rieni er mwyn clywed yn uniongyrchol am eu profiadau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau a chymorth ar gyfer eu plant. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru hefyd wedi cwrdd â’r deisebydd, ac mae’r Dirprwy Weinidog yn nodi y bydd y swyddogion yn parhau i gydweithio â’r grŵp rhieni wrth i bolisi niwroddatblygiadol ddatblygu yn y dyfodol.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.